Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Get Adobe Flash player

Atal y Wasg

Bydd yr Amgueddfa ar gau ddydd Llun, 1/05/2017

 

Mewngofnodi

Cyfres o Sgyrsiau

CYFRES O SGYRSIAU A DIGWYDDIADAU YN AMGUEDDFA RADIOS GWEFR HEB WIFRAU, DINBYCH 2016 – 2017

 

MEDI 2016

Dydd Gwener, 16 Medi, 7 - 10 y.h.   Goronwy Alun Hughes: His extraordinary life remembered.  Siaradwyr: ei gyfeillion.

 

HYDREF 2016

Dydd Gwener, 21 Hydref,   7 - 10 y.h. My Gems Collection. Siaradwr: John Clark

    

 

TACHWEDD 2016

Dydd Gwener, 18 Tachwedd,   7 - 10 y.h. Isaac Roberts: 19th Century Astronomer from Groes. Siaradwr: David Smith, Cymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru

 

 

RHAGFYR 2016

Dydd Gwener, 2 Rhagfyr, 7 - 10 y.h.  Radio Memories and Music and Poetry.  Noson gymdeithasol gyda chyfeillion yr amgueddfa.

 

IONAWR 2017  

 

Dydd Gwener, 20 Ionawr, 7 - 10 y.h.  Noson y Curadur. Radio Luxembourg, 1933-1945. Siaradwr: David S Crawford

 

CHWEFROR 2017

 

Dydd Gwener, 17 Chwefror,   7 -10 y.h.  Pharmacy in Victorian Times.  Siaradwr: Sue Clark

 

MAWRTH 2017

 

Dydd Gwener, 17 Mawrth, 7 -10 y.h.  Darlith flynyddol David Edward Hughes.  Menai Science Park.  Siaradwr: Ieuan Wyn Jones

 

 

EBRILL 2017

 

Dydd Gwener, 21 Ebrill, 7 -10 y.h.  The Struggle for the Radio became a struggle for creating a Nation.  Siaradwr: Eifion Lloyd Jones

 

 

MAI 2017

 

Dydd Gwener, 19 Mai, 7 - 10 y.h. A Visit to C.E.R.N. in Switzerland.  Siaradwr: Steffan Tudor

 

MEHEFIN 2017

 

Dydd Gwener, 16 Mehefin, 7 - 10 y.h. Talking to the World: The world of Amateur Radio.  Siaradwyr, ag arddangosiadau gan Amaturiaid Radio yr Amgueddfa.  

 

Dylid cyfeirio at y wefan am fwy o wybodaeth

Diweddariad Misol, Mawrth 2017

Diweddariad Misol, Mawrth 2017

 

Ar Ionawr 20fed, cynhaliwyd Noson y Curadur yn yr Amgueddfa, pan siaradodd David Crawford ar ‘Radio Luxembourg 1932-1945’.  Mae’r cyfnod hwn yn gyfnod sy’n tueddu i gael ei anghofio ym maes darlledu, ond roedd yn gyfnod pwysig yn natblygiad radio masnachol cyn yr Ail Ryfel Byd.  Yn 1931 sefydlodd Capten Plugge yr IBC, y Cwmni Darlledu Rhyngwladol, yn Ffrainc a noddwyd y rhaglenni gan gwmnïau masnachol, yn cynnwys gwerthwyr siocled a chynhyrchwyr sebon.  (Yn ddiddorol iawn, dyma wreiddyn y dywediad Saesneg am hysbysebu, ‘rhoi Plug i rywbeth’.)  Yn hwyrach, penderfynodd grwp o ddynion busnes o Luxembourg a Ffrainc gychwyn gorsaf radio a’i enwi yn ‘Radio Luxembourg’.  Roedd y rhaglenni o’r ddwy ffynhonnell yma yn boblogaidd iawn yn y Deyrnas Unedig, gan eu bod yn wahanol i gynnyrch arferol y BBC ar y pryd.  Daeth yr IBC i ben yn 1940, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Radio Luxembourg i ddarlledu propaganda gan Arglwydd Haw-Haw ar ran yr Almaen.  Ar ôl y Rhyfel, ail-gychwynnodd Radio Luxembourg fel radio masnachol, yn darlledu dros Ewrob yn Ffrangeg a Saesneg.  Ceir ail ran y ddarlith, ‘Radio Luxembourg 1945-2017’ yn yr Amgueddfa ar Fehefin 16eg.

 

 

 Ar Chwefror 13eg, daeth Sefydliad y Merched, Trefnant, i weld Casgliad yr Amgueddfa.  Yn ogystal, cawson nhw sgwrs gan Sue Griffith am ei mam, Doris Hare.  Actores, cantores, dawnswraig amryddawn iawn o Fargoed, Morgannwg, oedd Doris Hare ac roedd yn enwog am ei gwaith mewn ffilmiau ac ar lwyfan, yn nramâu Shakespeare ac, yn fwyaf arbennig, yn y rhaglen gomedi ‘On the buses’ ar y teledu.  Derbyniodd hi Wobr Arbennig gan Glwb y ‘Royal Variety’ yn 1982 am ei chyfraniad enfawr i Fyd y Sioe.  Yn ystod y prynhawn dangoswyd ffilm ohoni yn agor Modurdy Smithfield yn Ninbych yn 1949.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ddiweddar, mae Amgueddfa Gwefr heb Wifrau wedi derbyn rhodd gyffrous iawn, sef nifer o radios transistor cludadwy o’r 50au hwyr/60au cynnar, sydd bron fel newydd.  Yn y llun, ar y chwith, gwelir Radio Transistor Cludadwy Pye o 1957.  Dyma’r ail fath o Radio Transistor a gynhyrchwyd yn y DU.  (Gwnaethpwyd y math cyntaf gan Pam.)  Radio Transistor Cludadwy Roberts RT1 o 1958 yw’r radio ar y dde, y radio cludadwy cyntaf i’w gynhyrchu gan Roberts.  £17 oedd y pris.

 

 

 

 

 

 

 

Digwyddiadur Gwefr heb Wifrau:

Mawrth 17eg, 19.00 - Darlith flynyddol David Edward Hughes, pan fydd Ieuan Wyn Jones yn siarad am ‘Parc Gwyddoniaeth Menai’.

Ebrill 21ain, 19.00 - Bydd Eifion Lloyd Jones yn cyflwyno darlith Saesneg ar y testun a gafwyd yn Gymraeg y llynedd, ‘Brwydr Dechrau Radio yn Frwydr Creu Cenedl’.

Ebrill 28ain, 19.00 - Noson i wylio ‘I Daniel Blake’, ffilm o 2016 sy wedi ennill nifer o wobrau,  yn y Clwb Ffilmiau yn Theatr Twm o’r Nant.  Noson i godi arian i Gwefr heb Wifrau fydd hon.

Croeso cynnes i bawb.

 

Diweddariad misol, Chwefror 2017.

Diweddariad misol, Chwefror 2017.

 

 

 

Mae 2017 yn flwyddyn i gofnodi llawer o benblwyddi yn y byd darlledu.

 

Yn 1907, dyfeisiwyd falf mwyhadur (“amplifier valve”) yn UDA a chaniataodd hyn fwyhau tonnau sain a thonnau radio am y tro cyntaf.

Ar Ionawr 1af, 1927, newidiwyd y BBC o fod yn gwmni darlledu masnachol oedd yn darparu radio ar draws y DU i fod yn gorfforaeth, trwy Siarter Brenhinol.

Yn 1937 crëwyd Rhanbarth Cymru gan y BBC er mwyn rhoi hunaniaeth darlledu gwahanol i Gymru.  Cyn hyn, roedd Cymru yn rhan o ranbarth Gorllewin Lloegr a byddai rhaglenni Cymraeg yn cael eu darlledu i’r rhan honno o Loegr, yn ogystal â Chymru.

Yn 1947 dyfeisiwyd y transistor yn UDA a dyma ddechrau’r byd electronig rydym yn byw ynddo heddiw.

 

Yn 1957 lansiwyd Sputnik, y lloeren gyntaf i droi o gwmpas y ddaear, gan Rwsia.  Darlledwyd y signal radio cyntaf o’r gofod oddi wrthi a dyma ddechreuad datblygu lloerenni’r presennol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn 1967 cafwyd y darllediad teledu lliw cyntaf ar BBC2 ar Orffennaf 1af.  Y rhaglenni cyntaf oedd Pencampwriaeth Tenis Wimbledon.

 

Yn 1967 daeth y Ddeddf Troseddau Morol i rym er mwyn cau’r holl orsafoedd radio anghyfreithlon oedd yn darlledu tu allan i Ddyfroedd y DU, ac eithrio Radio Caroline a barhaodd am ryw flwyddyn arall.  Roedd y galw am gerddoriaeth boblogaidd yn dal i fodoli ac felly caniataodd Llywodraeth San Steffan i’r BBC greu Radio 1 a Radio 2 yn 1967.  Radio 1 yw’r orsaf radio fwyaf poblogaidd yn y byd erioed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar Ionawr 3ydd, 1977, lansiwyd Radio Cymru er mwyn rhoi gorsaf iaith Gymraeg i Gymru.  Hon oedd yr unig orsaf yn y DU a ddarlledai ar FM yn unig ar y pryd.  “Helo Bobl” gyda Hywel Gwynfryn oedd y rhaglen gyntaf am 7.00 y bore a “Ffrindiau bore oes” Hergest oedd y record gyntaf.  (Cychwynnwyd Radio Wales a Radio Scotland yn 1978.)

 

 

 

 

 

 

 

Ar Dachwedd 1af, 1982, 35 o flynyddoedd yn ôl, lansiwyd S4C, Sianel Pedwar Cymru, a ddarlledai 22 awr o raglenni Iaith Gymraeg yr wythnos, ynghyd â rhaglenni Saesneg o wasanaeth Sianel 4.  Cyn hyn darlledwyd nifer o raglenni Cymraeg ar BBC1 ac ITV.  Yn y 70au penderfynodd Llywodraeth San Steffan fod angen pedwaredd sianel at y dair oedd yn bodoli eisoes, BBC 1, BBC2 ac ITV a bu ymgyrchu dwys i gael sianel oedd yn arbennig i Gymru.  Erbyn heddiw mae S4C ar gael ar Freeview, Sky, Virgin, Freesat, ar-lein ac ar Ap.

 

 

 

 

 

 

Yn 1992, 25 o flynyddoedd yn ôl, cychwynnwyd Classic FM, gorsaf radio fasnachol genedlaethol i ddarlledu cerddoriaeth glasurol.

 

Yn 1997, lansiwyd Sianel 5, gorsaf deledu fasnachol i’r DU.

 

 

Dyma’r diweddaraf yn ein cyfres o ddarlithiau yn yr Amgueddfa ar nos Wener am 7 o’r gloch:

Chwefror 17eg,  “Lewis a Clark yn dilyn Lewis a Clark”, hanes Thomas Jefferson yn darganfod Tramwyfa’r Gogledd-Orllewin yn 1802, gan Sue Clark, yn Saesneg.

Mawrth 17eg, Darlith flynyddol David Edward Hughes, “Parc Gwyddoniaeth Menai” gan Ieuan Wyn Jones, yn ddwyieithog.

 

Ar hyn o bryd, mae’r Amgueddfa yn chwilio am Record 16 rpm a Record Quadrophonic ar gyfer eu casgliad o Hen Recordiau.  Oes ‘na rai yn Ninbych tybed?

 

 

Diweddariad misol Ionawr 2017

Diweddariad misol, Ionawr 2017.

Bu diwedd 2016 yn gyfnod prysur iawn i’r Amgueddfa Radio.

Cafwyd darlith gan David Smith ar “Isaac Roberts:  y Seryddwr o Groes o’r 19eg ganrif”.  Ganwyd Isaac Roberts yng Ngroes yn 1829  ac yn 1883 dechreuodd wneud gwaith arloesol wrth dynnu lluniau o sêr, yn arbennig Orion, Andromeda a chlwstwr Pleiades.  Roedd y lluniau yn anodd i’w dehongli ond roedden nhw yn ddadlennol iawn.  Cafodd y lluniau eu harddangos gan y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol yn rheolaidd ac o’r herwydd derbyniodd Isaac Roberts Fedal Aur y Gymdeithas yn 1895.

 

 

 

 Bu Tony Schiavone yn rhoi darlun i ni o hanes datblygiad recordio cerddoriaeth Gymraeg o 1800 at heddiw.  Madge Breeze yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ oedd y recordiad cyntaf yn 1899, a dilynwyd hi gan recordiadau o gorau, cymanfaoedd canu a phregethau.  Yn y 50au sefydlwyd cwmnïau arbennig i recordio ar gyfer y farchnad Gymreig gan recordio Jac a Wil, David Lloyd a Triawd y Coleg.  Yn y 60au bu newid, pan ddechreuwyd recordio ar gyfer y genhedlaeth ifanc.  Sefydlwyd cwmni Sain yn 1969.  Erbyn heddiw, mae popeth wedi newid wrth i bobl lawrlwytho cerddoriaeth, ac mae’r cwmnïau recordio wedi colli pob rheolaeth ar y farchnad.  Yn ddiweddar, mae recordiau vinyl wedi adennill eu poblogrwydd oherwydd bod gwrandawyr am allu gafael yn y record, a’r clawr, yn eu dwylo.  Gadawodd Tony Schiavone ni efo awgrym diddorol iawn – y dylai Amgueddfa Gwefr heb Wifrau sefydlu Archif Recordiau artistiaid lleol!

 

 

 Daeth Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Dreftadaeth a Diwyllliant, i’n gweld ar Ragfyr 2il.  Gwelir hi yn y llun gyda Peter, Pegi a Dyfrig.

 

 

Ar Ragfyr 5ed, llwyddodd Amaturiaid Radio Gwefr heb Wifrau (GB0WIW) i gysylltu ag Amatur Radio ar arfordir dwyreiniol Unol Daleithiau America, eu cysylltiad cyntaf ar draws Yr Iwerydd.

 

Ar Ragfyr 3ydd codwyd dros £600 i Gwefr heb Wifrau a MaryDei mewn Bore Coffi llwyddiannus yn Eirianfa.  Diolch i bawb am eu cefnogaeth brwdfrydig.

 

 

Noson y Curadur fydd ein digwyddiad nesaf, ar Ionawr 20fed, pan fydd David Crawford yn siarad am “Radio Luxembourg, 1933-1945” am 19.00.  Croeso cynnes i bawb.

 

Diolch i bawb a’n cefnogodd ni yn ystod 2016, ac yn arbennig i’n Siaradwyr.

 

Mae’r Amgueddfa Radio ar agor i’r cyhoedd bob dydd Llun, 10.00 – 15.00, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.  Os ydych am drefnu ymweliad unrhyw adeg arall, neu os ydych am drefnu i rywun ddod i siarad â’ch grwp chi, cysylltwch yn uniongyrchol â

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

 

Eitem newydd

Eitem newydd!

.

Yn ddiweddar cawsom rhodd o radio falf cludadwy Vidor C.N. 436. Roedd y set hon, a wnaed yn 1957, yn un o ddim ond dau fath o radio falf cludadwy oedd efo'r band FM newydd. Roedd y math arall yn cael ei gwneud gan Ever Ready. Mae ein enghraifft yn newydd, heb ei defnyddio, yn gyflawn gyda'r blwch  gwreiddiol , gwarant, cyfarwyddiadau a diagram cylched. Mae hyd yn oed addasydd prif gyflenwad i'w galluogi iddi weithio gartref felly yn gwarchod y batri (drud).

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu amlygu.

 

17/06/3026 Hyfforddiant gwirfoddolwyr  - Technoleg iBEACON , HWB Dinbych.

 

17/06/2016 Datblygiadau yn y diwydiant glo ers y 1970au, Richard Thompson, peiriannydd mwyngloddio (drwy gyfrwng y Saesneg)

 

23/06/2016 Hyfforddiant gwirfoddolwyr  - Castell Caernarfon

 

01/07/2016 Sgwrs gan Ioan Talfryn i'w hail drefnu yn ddiweddarach.

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo