Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Atal y Wasg

 

Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Llun, 24/09/2018.

11:00 - 15:00 ac ar adegau eraill trwy drefniant.

 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewngofnodi

Digwyddiadau yn yr Amgueddfa 2018 - 2019

CYFRES O SGYRSIAU A DIGWYDDIADAU YN AMGUEDDFA GWEFR HEB WIFRAU DINBYCH 2018 – 2019

 

MEDI 2018

Dydd Gwener 21 Medi: 7yh - 9yh: “Your Ring-The Human Cost”: Siaradwr: John Clark

 

 

 

HYDREF 2018

Dydd Gwener 19 Hydref  7yh - 9yh: “New Medicines and the NHS”  Siaradwr: Yr Athro Dyfrig Hughes

    

 

TACHWEDD 2018

Dydd Gwener 16 Tachwedd: 7yh - 9yh: “The Welsh in Liverpool”: Siaradwr: Mike Farnworth

 

 

TACHWEDD 2018

Dydd Gwener 30 Tachwedd 7yh - 9yh: Noson y Curadur: “Thomas Edison: The Man who nearly invented Radio” Siaradwr: David Crawford

 

 

RAGFYR 2018

 

 

IONAWR 2019  

Dydd Gwener 18 Ionawr: 7yh - 9yh “Community Digital Radio” Siaradwr: Dr. Selwyn Williams

 

 

CHWEROR 2019

Dydd Gwener 15 Chwefror: 7yh - 9yh: “Geography, Geology and Gemstones”  Siaradwr: Tony Vine

 

 

MAWRTH 2019

Dydd Gwener 15 Mawrth: 7yh - 9yh: Darlith flynyddol  David Edward Hughes  “MADE Studio: Carriageworks Denbigh: Art in Science and Technology” Siaradwyr: Studio Artists

 

 

EBRILL 2019

Dydd Gwener 5 Ebrill: 7yh - 9yh: “Heading for the City-following the story of a wireless operator and a German WW1 cruiser”: Siaradwr: Christopher Lees

 

 

MAI 2019

Dydd Gwener 17 Mai: 7yh - 9yh: “The Editing and Manipulation of Photography”: Siaradwr: Sue Clark

 

 

MEHEFIN 2019

Dydd Gwener 21 Mehefin: 7yh - 9yh: “In the Recording Studio”: Siaradwr: Richard Vernon

 

EDRYCHWCH AR Y WEFAN YN GYSON AM FWY O WYBODAETH OS GWELWCH YN DDA

Diweddariad misol, Mehefin 2018.

Diweddariad misol, Mehefin 2018.

 

Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn Amgueddfa Gwefr heb Wifrau yn ddiweddar.  Bu Vesi a Barbara.

i Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych yng Ngwesty Ty Oriel.

 

 

Daeth Philip Wensley o Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru atom i achredu’r Amgueddfa am yr ail waith.  “Cynllun cenedlaethol sydd yn gosod safonau rheoli amgueddfeydd, gofalu am gasgliadau a gwasanaeth i’r cyhoedd,” yw Cynllun Achredu Gwasanaeth Amgueddfeydd yng Nghymru a braf yw dweud ein bod wedi cyrraedd y safon yn llawn unwaith eto.

 

 

Mae un o’n radios, y Derbyniwr Atgynhyrchiol Foulkes, yn rhan o Arddangosfa ‘”100 o Wrthrychau” Fforwm Treftadaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Wrecsam tan 30/06/18.  Yn yr arddangosfa hefyd mae pennau saeth o Gastell Dinbych, dan fenthyg o Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych, siaced gaeth a bloc Gwasg Gee o Amgueddfa Dinbych a ffonograff o 1910 o Gymdeithas Hanesyddol Caerwys.  Bu’r ffonograff arbennig yma yn recordio caneuon gwerin Siroedd Dinbych a Fflint yn y cyfnod, gan gynnwys ‘Cadi Ha’.

 

 

Cawsom ein Cyfarfod Blynyddol ar 20/04/18 a diolchwyd i bawb am eu gweithgarwch gydol y flwyddyn.  Dilynwyd y cyfarfod gan ddwy ffilm am longddrylliadau’r ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’, a gyflwynwyd gan Tony Griffiths a Keith Mountain.  

 

 

Llong oedd yn cario ymfudwyr i America oedd yr ‘Ocean Monarch’ a lladdwyd 178 ohonynt mewn tân toc ar ôl gadael porthladd Lerpwl ar 24/08/1848.  Achubwyd dros 200 o bobl ac aethpwyd â nhw nôl i Lerpwl.  Golchwyd y cyrff i’r lan ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn arbennig ym Mhensarn a Phrestatyn.  Dr. Evan Pierce o Ddinbych oedd y crwner yn yr achos, ac mae cofadail i’r drychineb yn Eglwys St. Michael yn Abergele.  

 

 

Adeiladwyd rhodlong (‘paddle steamer’) y ‘Lelia’ yn Toxteth yn 1864, fel llong a fyddai’n cymryd rhan yn rhyfel cartref America.  Y bwriad oedd ei hwylio hi, yn llawn o lo, dan reolaeth Capten Skinner, mor bell ag Ynysoedd yr Azores, lle byddai’n newid ei baner a’i chapten i Arthur Sinclair, oedd yn gydffederalwr.  Ar 05/01/1865 gadawodd y ‘Lelia’ y Merswy ar ei mordaith gyntaf ond buan y gwaethygodd y tywydd.  Codwyd yr angorau gan y môr, a thaflwyd nhw drwy’r dec gan achosi twll.  Dim ond 12 o bobl a achubwyd.  Mae gweddillion y ddwy long yn dal ar waelod y môr wrth arfordir Gogledd Cymru ac mae arteffactau i’w gweld yn amgueddfa morwrol newydd “Ships Timbers” yn Llandudno.

 

 

Ar 27/04/18, bu Ioan Talfryn yn darlithio ar “Mewn Anwybod.  Agweddau ar waith T.H. Parry-Williams”.  Roedd T.H. Parry-Williams yn ddyn amryddawn iawn, yn wyddonydd blaengar, yn ieithydd, yn awdur, yn Athro Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a fo oedd y bardd cyntaf i ennill y Goron a’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn.  Dyfyniad o’r gerdd “I’m Hynafiaid” yw “mewn anwybod” a soniodd Ioan am yr “anwybodadwyedd”, ansicrwydd ac amhendantrwydd a welir yn y cerddi.  Cyfeirioddd at y profiadau anghyffredin a gafodd y bardd mewn lleoedd arbennig a’r profiadau o lwyr ymgolledd, profiadau cyfrinol, a ddisgrifir.  Hoff farddoniaeth Ioan, mae’n amlwg!

 

Mae ein gwirfoddolwyr yn mynd allan i ddigwyddiadau yn y gymuned yn weddol reolaidd.  Yn ddiweddar, bu David at yr Amatyriaid Radio sy’n cyfarfod yn Irby, Cilgwri, i ddarlithio ar ‘Technoleg y Gramoffôn a Datblygiad y Record 78RPM’.

 

 

Cawsom Noson Gwis lwyddiannus iawn yn ddiweddar o dan law feistrolgar Martyn.  Dringodd 40 o bobl y grisiau i’r ystafell heulog a nid yn unig y cystadlu oedd yn boeth!  Diolch i bawb a gefnogodd y noson, gan godi dros £150 i’r Amgueddfa.

 

Mae dwy ddarlith ar ôl yn ein cyfres cyn toriad yr haf:

Mehefin 15fed, 7.00 y.h., “Darlledu yng Nghymru”, gan Ifor ap Glyn.

Mehefin 22ain, 7.00 y.h., yn Gymraeg, “Effeithiolrwydd a Diogelwch Meddyginiaethau”, gan yr Athro Dyfrig Hughes. 

Croeso cynnes i bawb.

 

 

A ………. mae Martyn wedi llwyddo i gael y Radio Osram Music Magnet Three o 1929 i weithio!
 

 

Diweddariad misol, Gorffennaf 2018.

Diweddariad misol, Gorffennaf 2018.

 

Mae Gwefr heb Wifrau yn aelod o Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru a nhw drefnodd arddangosfa ‘100 Gwrthrych’ yn Amgueddfa Wrecsam yn ddiweddar, lle mae ein radio Foulkes yn cael ei arddangos.  Amcan y Fforwm yw ysbrydoli diddordeb yn nhreftadaeth amrywiol yr ardal, cyd-weithio ar brosiectau rhanbarthol a rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiectau.

Ac o ganlyniad i’r cydweithio yma daeth pobl o Wrecsam i’n darlith ni ar  ‘Fwyngloddio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru’ gan Alan Jones, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru.  Dywedodd Alan mai bwriad yr ymddiriedolaeth yw “cadw yr arteffactau mwyngloddio sydd yn dal i fodoli a chofnodi ein treftadaeth mwyngloddio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.  Rhestrodd Alan yr arteffactau maen nhw wedi llwyddo i’w hachub a’u cadw ers sefydlu’r ymddiriedolaeth, gan gynnwys Gorsaf Achub Glowyr, Ffordd Maesgwyn, Wrecsam; yr olwyn fawr yn Llay; y cwt weindio ym Mersham, sy’n mynd i fod yn Amgueddfa, gobeithio; a’r twb o friciau yn Rhosllanerchrhugog.  Maen nhw wedi prynu hen fan llyfrgell a’i haddasu er mwyn ei defnyddio fel amgueddfa fach ar gyfer ymweliadau ag ysgolion.  Soniodd Alan am y mwynau sydd yn yr ardal, copor, arian, aur, llechi, a glo, ac enwodd y meysydd glo, gan gynnwys maes glo bychan i’r gogledd o Ddinbych.  Pan soniodd am amgylchiadau anodd gweithio tan ddaear ymatebodd un o’r gynulleidfa, Denys, trwy ddweud ei fod o wedi bod yn ‘Bevin Boy’ yn ystod y rhyfel.  Buon nhw’n trafod am hydoedd a difyr oedd y sgwrs!

Alan, Vesi, Denys ac Heather o’r Fforwm

 

Ar Fehefin 15fed, daeth Bardd Cenedlaethol Cymru atom i sgwrsio yn Saesneg am ‘Y Bardd fel Cyfieithydd a Llysgennad’.  Doedd pawb ddim wedi sylweddoli ynghynt fod Ifor ap Glyn wedi bod ar bwyllgor llywio sefydlu’r Ganolfan Iaith tra’i fod yn byw yn Ninbych a braf oedd ei weld yn dychwelyd i’r dref ac i’r adeilad.  Soniodd am le a phwysigrwydd barddoniaeth yn niwylliant Cymru hyd heddiw a threuliodd y noson yn darllen cerddi o’i lyfr dwyieithog newydd ‘Cuddle Call’ (teitl dwyieithog!) ac yn sôn am gefndir y cerddi a’r traethodau.  Nododd fod un gerdd ‘Terasau’ wedi cael ei thaflunio ar ochr cloc Big Ben yn Llundain ar Sul y Cofio 2016, yn y ddinas lle’i ganwyd.  Yng Ngwlad Pwyl daeth ar draws dynes oedd wedi dysgu Cymraeg ac wedi cyfieithu rhai o’i gerddi i’r Bwyleg.  Yn ddiweddar, mae wedi bod i Tsieina ar daith fasnach a diwylliant o Gymru a bu’n gwrando ar ei gerddi yn cael eu darllen yn yr iaith frodorol!

 

Diolch i’r Maer ac i bawb arall a gefnogodd ein Bore Coffi ar y cyd â Mind Dyffryn Clwyd ac Amgueddfa Dinbych.  Codwyd dros £300.

 

 

Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Sadwrn yn ystod mis Awst.  Os ydych am drefnu ymweliadau ar adegau eraill, cysylltwch â ni ar 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

 

 

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu hamlygu.

 

 

“Your Ring:The Human Cost”: Sgwrs gan  John Clark  21/09/2018  19:00

 

"Dathliadau dwbl yng Nghanolfan Iaith Clwyd"  8 - 13/10/2018

 

 

 

 

 

 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo